Mae Heddlu Gogledd Cymru yn parhau i apelio am dystion ynglŷn â digwyddiad pan gafodd dyn ei saethu yn Llangollen, ddydd Mercher.
Roedd y dyn wedi cael ei anafu ar yr A5 ar y ffordd i mewn i Langollen o gyfeiriad y Bont Gadwyn, a hynny tuag un o’r gloch y prynhawn. Roedd yn teithio mewn jeep Suzuki Vitara du.
Mae’r dyn, sydd yn Ysbyty Maelor Wrecsam, mewn cyflwr “sefydlog” ar hyn o bryd ac yn ôl Heddlu Gogledd Cymru yn eu helpu nhw gyda’r ymchwiliad.
“Mae digwyddiadau gyda gynnau’n anghyffredin yng Ngogledd Cymru ac mae’r heddlu’n awyddus i siarad gydag unrhyw un a allai fod yn yr ardal yn ystod y digwyddiad” meddai’r Arolygwr Iestyn Davies.
Fe ddylai unrhyw un sydd â rhagor o wybodaeth gysylltu gyda Heddlu Gogledd Cymru ar 101 neu ar 08456071001 neu yrru neges destun i 66767. Mae hefyd yn bosibl e-bostio’r Heddlu ar northwalespolice@north-wales.police.uk.