Mae tri aelod o un teulu o ogledd Lloegr wedi cael eu saethu’n farw ym Mhacistan.

Yn ôl yr heddlu lleol, perthnasau iddyn nhw oedd yn gyfrifol am saethu’r tad, mam a merch o Nelson yn Lancashire.

Bellach mae enwau’r tri wedi eu cyhoeddi – Mohammad a Pervaze Yousaf a’u merch 22 oed, Tania – ac fe gyhoeddodd y Swyddfa Dramor eu bod nhwthau’n ymchwilio i’r hyn a ddigwyddodd.

Mae dau ddyn wedi cael eu harestio ac mae’n ymddangos bod yr heddlu ym Mhacistan yn chwilio am ddau ddyn arall. Mae’n ymddangos mai ffrae hirhoedlog tros briodas oedd achos y gynnen.

Priodas

Yn ôl heddlu Swydd Gaerhirfryn, sy’n rhoi cefnogaeth i berthnasau’n ôl yn Lloegr, roedd y llofruddiaethau wedi digwydd mewn pentref yn nhalaith Gujrat yng ngogledd-ddwyrain Pacistan ddoe.

Roedd y teulu yn y wlad ar gyfer priodas ac mae’n ymddangos eu bod wedi eu lladd wrth ymweld â mynwent. Roedd gwraig arall wedi ei lladd hefyd.

Mae teyrngedau wedi eu rhoi i Tania Yousaf ar y wefan gymdeithasol Facebook.

Llun: Y Swyddfa Dramor yn ymchwilio