Mae Morgannwg ar frig ail adran Pencampwriaeth y siroedd ar ôl curo Gloucestershire o fatiad a phedwar rhediad.
Dyma’r ail dro o’r bron i’r sir ennill o fwy na fatiad – y tro cynta’ ers 1948 iddyn nhw gyflawni’r fath gamp.
Roedd yna nod hanesyddol i’r troellwr Robert Croft hefyd wrth iddo fynd heibio i Malcolm Nash i fod yn bedwerydd ar restr wicedi’r sir.
Gyda Morgannwg ar y blaen o 166 ar ôl y batiad cynta’, wnaeth y tîm o Gaerloyw ddim eu bygwth o ddifri.
Fe gwympodd wicedi’n gyson yn ystod y dydd, gyda’r gêm ar ben erbyn amser te. Roedd yna dair i’r troellwr, Dean Cosker, dwy i Croft, un yr un i Waters, Dalrymple ac Allenby ac fe gafodd dau eu rhedeg mas.
Morgannwg – y campau hanesyddol
Wilf Wooller oedd y capten y tro diwetha’ i Forgannwg ennill dwy gêm yn olynol o fatiad a’r ail fuddugoliaeth a seliodd y Bencampwriaeth iddyn nhw y flwyddyn honno.
Ac yntau’n 40 oed yr wythnos nesa’, mae Robert Croft bellach o fewn wyth wiced i gyrraedd y 1,000. Dim ond tri bowliwr arall o Forgannwg sydd wedi cyflawni hynny.
Roedd yn arbennig o falch gyda pherfformiad y sir – dim ond yr ail dro iddo chwarae ers dechrau’r tymor.
Ond does gan Croft ddim gobaith o ddal y dyn sydd ar frig y rhestr. Fe gymerodd y troellwr Don Shepherd 2174 o wicedi.
Llun: Croft – y pedwerydd ar y rhestr