Mae cwmni awyrennau British Airways wedi cael eu colled fwya’ erioed … ond doedd hynny ddim cynddrwg â’r disgwyl.
Fe gyhoeddodd y cwmni eu bod wedi colli £531 miliwn yn ystod y flwyddyn ariannol ddiwetha’ – mwy hyd yn oed na’r golled o £401 miliwn y flwyddyn gynt.
Mae’r ffigurau’n cynnwys effaith streiciau’r criwiau caban ddechrau’r flwyddyn ond dydyn nhw ddim yn cynnwys y colledion diweddarach oherwydd y lludw o’r llosgfynydd.
Mae’r cwmni hefyd yn wynebu rhagor o golledion yn yr wythnosau nesa’ wrth i’r criwiau caban ail ddechrau streicio ddydd Llun.
Er hynny, roedd llawer o arbenigwyr wedi disgwyl colledion mwy – gyda’r proffwydoliaethau neithiwr yn awgrymu £600 miliwn.
Mae dadansoddwyr hefyd yn dweud bod gan y cwmni broblemau tymor hir, yn ogystal â thrafferthion y funud.
Condemnio’r streicwyr
Wrth gyhoeddi’r ffigurau, fe fanteisiodd Prif Weithredwr y cwmni, Willie Walsh, ar y cyfle i ymosod ar y streicwyr.
“Mae angen newid parhaol ar draws y cwmni er mwyn dechrau gwneud elw eto,” meddai. “Ac mae’n siomedig nad yw undeb y criwiau caban yn cydnabod hynny.”
Ond mae’r undeb – Unite – wedi croesawu penderfyniad y Llys Apêl ddoe sy’n caniatáu iddyn nhw streicio eto.
Roedd gwaharddiad llys cynharach wedi eu rhwystro ond, yn ôl yr undeb, roedd hwnnw’n ymwneud â mater technegol pitw ac yn peryglu hawl gweithwyr yng ngwledydd Prydain i atal eu gwaith.