Wrth i’r gwaith clirio barhau yn Bangkok, mae Prif Weinidog Gwlad Thai wedi rhybuddio efallai na fydd etholiadau’n cael eu cynnal eleni.

Fe gafodd 15 o bobol eu lladd ddoe a 119 eu hanafu wrth i filwyr a heddlu ymladd yn erbyn protestwyr oedd yn taro’n ôl ar ôl i’w gwersyll gael ei chwalu.

Er ei fod ar un amser wedi addo etholiadau ym mis Tachwedd, fe ddywedodd Abhisit Vejjajiva y gallai hynny fod yn amhosib.

Mewn araith yn Japan, fe ddywedodd Gweinidog Ariannol y wlad, Korn Chatikavanij, y byddai’n rhaid aros i bethau dawelu.

“Rhaid i ni wneud yn siŵr bod emosiynau wedi oeri fel bod ymgeiswyr o bob plaid yn gallu teimlo’n ddiogel yn ymgyrchu ym mhob rhan o’r wlad,” meddai. “A bod yn onest fydden ni ddim yn teimlo’n gyfforddus yn gwneud hynny’n awr.”

Yn ystod helynt y dyddiau diwetha’, roedd y Llywodraeth wedi gosod cyrffiw ar 23 o daleithiau ac roedd yna drais ysbeidiol eto dros nos.

Un o’r prif alwadau

Cynnal etholiadau newydd oedd un o brif alwadau’r mudiad protest, y Crysau Coch, wrth iddyn nhw feddiannu rhan o ganol y ddinas am fwy na dau fis.

Ar un adeg, roedd Abhsit Vejjajiva wedi cynnig etholiad ar Dachwedd 14 ond fe gafodd hwnnw ei dynnu’n ôl yn ddiweddarach, ar ôl i’r protestwyr wrthod ei dderbyn.

Llun: Diffodd y fflamau ola’ yn Bangkok