Parhau y mae’r ddadl tros refferendwm datganoli, gydag Ysgrifennydd Cymru’n gwrthod pwysau gan y Blaid Lafur a’r Cynulliad.
Mae Cheryl Gillan wedi ailadrodd yr hyn ddywedodd hi ar ei diwrnod cynta’ yn y swydd – na fydd hi ddim yn torri corneli ynglŷn â’r cwestiwn i’w osod.
Mae hi a’r Ysgrifennydd o’i blaen – Peter Hain – wedi ffraeo’n gyhoeddus tros y trefniadau a hithau’n ei gyhuddo ef o fethu â gwneud dim i baratoi’r cwestiwn.
Wrth i Brif Weinidog Cymru. Carwyn Jones, alw am refferendwm yn yr hydref, mae Cheryl Gillan yn mynnu y bydd rhaid i’r Comisiwn Etholiadol gael deng wythnos i ystyried geiriau’r cwestiwn.
Yn ôl y rhan fwya’ o sylwebwyr, mi fyddai hynny’n ei gwneud hi’n amhosib cael y bleidlais eleni, gyda Mawrth y flwyddyn nesa’n llawer mwy tebygol.
Roedd y Cynulliad ei hun wedi creu fersiwn o’r cwestiwn ond angen i’r Comisiwn Etholiadol gynnal arolygon i weld a yw’n deg ac yn gweithio.
Llun: Cheryl Gillan – gwrthod brysio