Mae’r Prif Weinidog wedi ceisio tawelu’r ofnau ymhlith cefnogwyr y Ceidwadwyr tros y Llywodraeth glymblaid newydd.

Fe ddewisodd David Cameron eu hoff bapur – y Daily Mail – i gyhoeddi erthygl yn pwysleisio ei fod yn parhau’n “Brif Weinidog Ceidwadol”.

Mae’n cyfadde’ bod y blaid wedi gorfod ildio ar rai o’i pholisïau er mwyn cael cytundeb gyda’r Democratiaid Rhyddfrydol a’i fod wedi gorfod cyfaddawdu.

“Wrth gwrs bod rhai pobol yn siomedig bod rhai polisïau wedi gorfod cael eu rhoi o’r neilltu,” meddai.

Ymhlith y rheiny, roedd addewid i geisio tynnu grymoedd yn ôl o’r Undeb Ewropeaidd, dileu’r Ddeddf Hawliau Dynol a dileu’r gwaharddiad ar hela llwynogod.

Gydag ambell bwnc llosg arall, lle’r oedd y Ceidwadwyr a’r Democratiaid yn anghytuno – sut i ddiwygio’r banciau er enghraifft – mae’r ddwy blaid wedi cytuno i greu Comisiwn i’w hystyried.