Mae’r diwydiant gwerthu tai wedi croesawu penderfyniad gan Lywodraeth newydd Prydain i gael gwared ar becynnau gwybodaeth Hips.

Rhoddwyd gorchymyn, sy’n dod i rym yn syth, o flaen Senedd San Steffan ddoe, gan yr Ysgrifennydd Cymunedau newydd, Eric Pickles.

Roedd diddymu Hips yn rhan o gytundeb clymblaid y Llywodraeth, ac roedden nhw am weithredu’n sydyn er mwyn atal ansicrwydd yn y farchnad.

Mae Gweinidogion yn credu y gallai eu hatal olygu y bydd gwerthwyr yn arbed £870 miliwn dros y 10 mlynedd nesaf.

Hips – y cefndir

Roedd y pecynnau wedi cael eu cyflwyno i roi mwy o wybodaeth i bobol am dai yr oedden nhw am eu prynu.

Ond fe gawson nhw eu beirniadu am beidio â bod yn effeithiol a bod y gost i berchnogion tai yn gwneud iddyn nhw feddwl ddwywaith cyn rhoi tŷ ar y farchnad.

Hyd yn oed ar ôl diddymu Hips, fe fydd gwerthwyr yn dal i orfod darparu tystysgrif ynglŷn â pherfformiad ynni eu cartrefi.