Mae un o gantorion amlycaf Cymru wedi beirniadu Gŵyl y Faenol am gynnig llwyfan i fandiau Saesneg yn noson Tân y Ddraig eleni.

Roedd Dewi Pws yn ymateb i’r cyhoeddiad y bydd y noson draddodiadol Gymraeg yn cael ei symud i’r nos Sul ac y byddai grwpiau Cymraeg a Saesneg yn rhan ohoni.

“Tân y Brits fydd e nawr,” meddai Dewi Pws, sydd wedi perfformio droeon yn yr ŵyl gyda’r Tebot Piws ac Edward H Dafis. “Neu sbarcen y Brits, nid Tân y Ddraig.”

Mae’r noson Gymraeg wedi bod yn rhan o Wyl y Faenol ers ei sefydlu yn 2000 ond chafodd yr ŵyl ddim ei chynnal y llynedd oherwydd trafferthion ariannol yn sgil tywydd gwael yn 2008.

Eleni mae’r noddwyr, cwmni recordiau Universal, yn awyddus i newid y trefniadau.

“Mae [Tân y Ddraig] yn gyfle grêt i fandiau Cymraeg gael eu gweld gan lot o bobol. Roedd ymateb grêt i’r Tebot. Roedd pawb yn canu yna, roedd e fel ‘steddfod.

“Roedd [y gynulleidfa] yn edrych yn lot pan o’n i ‘na. Tasen nhw’n dod â bandiau Saesneg, fydde fe ddim yn Faenol, fydd e’n Fflam Fach y Brits.”

O’r doc i’r Faenol

Am y tro cyntaf eleni, fe fydd noson gomedi yn cael ei chynnal yng Ngŵyl y Faenol.

Fe fydd y comedïwr Tudur Owen yn rhannu llwyfan gyda rhai o enwau mawr y byd comedi – Al Murray, Lloyd Langford a Milton Jones.

“Dw i wrth fy modd,” meddai’r digrifwr sy’n byw yn y Felinheli. “Mae o ar stepan drws i mi felly bydd o’n handi iawn i gyrraedd!

“Y peth cynta’ dw i’n gorfod meddwl amdano fo ydy ‘mod i’n ei wneud o’n ddwyieithog. Bydd rhaid trio gweithio allan y set. Pan dw i’n gwneud noson Gymraeg, mae gen i fy set Gymraeg, pan dw i’n ei wneud o’n Saesneg mae gen i set hollol wahanol… Bydd o’n her.”

Gweddill y stori yn Golwg, Mai 20