Mae Asiantaeth yr Amgylchedd wedi bod yn rhy araf wrth fynd ati i gosbi Dŵr Cymru am fethu ag atal carthffosiaeth heb ei drin rhag llifo i lyn poblogaidd yn Llanberis.
Yn ôl cymdeithas bysgota yn y gogledd, mae’r corff sydd i fod i warchod byd natur yn euog “o fynd rownd mewn cylchoedd” yn hytrach na chymryd camau pendant i orfodi Dŵr Cymru i atal y llygru yn Llyn Padarn.
Ond mae’r Asiantaeth yn mynnu ei bod gam yn nes at gymryd camau cyfreithiol yn erbyn Dŵr Cymru, yn sgîl achos difrifol o ollwng carthffosiaeth heb ei drin i’r llyn yn ddiweddar.
Mewn cyfarfod arbennig o Fforwm Llyn Padarn ddydd Gwener cafodd Cymdeithas Bysgota Seiont, Gwyrfai a Llyfni wybod bod gan Dŵr Cymru bedwar mis i ymateb i rybudd gan yr Asiantaeth.
Yn ôl y cadeirydd Huw Hughes, clywodd “na fyddai samplau o wely’r llyn yn barod am bythefnos a bod Asiantaeth yr Amgylchedd wedi syrfio notus ar Dŵr Cymru i dynnu lefel y ffosffad i lawr.”
Problem ehangach?
Yn ôl y gymdeithas bysgota, dyw rhyddhau carthion heb eu trin i lygru afonydd yn unigryw i Lanberis.
Mae Huw Hughes, wedi trosglwyddo cwynion i Asiantaeth yr Amgylchedd drwy fis Ebrill.
Erbyn hyn mae samplau dŵr wedi’u cymryd yn bennaf o ardal Caernarfon.
“Mae’r dref yn drewi!” meddai Huw Hughes sydd o’r farn y dylai Dŵr Cymru wneud mwy o waith uwchraddio a chynnal a chadw, wrth i fwy a mwy o dai gael eu hadeiladu’n lleol.
Ers 1992, mae Cymdeithas Bysgota Seiont, Arfon a Gwyrfai wedi cwyno wrth Asiantaeth yr Amgylchedd am lygredd yn Llyn Padarn a’r Afon Seiont sy’n llifo am wyth milltir i Gaernarfon. Mae’r pysgotwyr yn rhoi’r bai yn sgwâr ar gwmni Dŵr Cymru am y llygredd.
Gweddill y stori yn Golwg, Mai 20