Fe fyddai’n gosod cynsail “peryglus” i dderbyn cynnig Prif Weinidog Prydain i ddod i ateb cwestiynau yn Senedd y Cynulliad, yn ôl Llywodraeth Cymru.
Wrth ymateb i gwestiynau’r wasg yn sgil ymweliad cyntaf David Cameron a Chymru, roedd Prif Weinidog Cymru a’i Ddirprwy yn chwyrn yn erbyn y syniad o drefnu ymweliadau cyson.
“Tra bod yna broses eLCO bydd rhaid i Weinidogion fynd i ateb cwestiynau yn San Steffan ond eithriad yw hwnna wrth gwrs, mae’n rhan o’r broses eLCO,” meddai’r Prif Weinidog Carwyn Jones wrth ymateb i awgrym David Cameron y gallai ef a Gweinidogion San Steffan ddod i Fae Caerdydd i ymateb i gwestiynau ac yn yr un modd y gallai Gweinidogion o Gymru ateb cwestiynau yn Llundain.
Ond yn ôl arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, dyw Prif Weinidog Cymru na’i Ddirprwy ddim wedi deall y “wleidyddiaeth newydd” yn San Steffan.
“Mae ymweliad David Cameron â Chaerdydd yn nodi dechrau adeiladol a phositif i berthynas y DU a Llywodraeth y Cynulliad a rhwng San Steffan a’r Cynulliad.” meddai Nick Bourne. “Gallwn ni daclo problemau mawr y dydd trwy weithio gyda’n gilydd er lles Cymru.”
Gweddill y stori yn Golwg, Mai 20