Mae peirianwyr BP wedi llwyddo i reoli llif peth o’r olew sy’n gollwng yng Ngwlff Mexico trwy ddefnyddio pibell milltir o hyd i’w sugno i mewn i dancer.
Mae miloedd o alwyni o olew crai yn y dŵr yn barod, ac mae yna bryderon y gallai gyrraedd Florida o fewn dyddiau.
Mae olew wedi bod yn gollwng ers i blatfform olew Deepwater Horizon ffrwydro ar 20 Ebrill gan ladd 11 o bobl.
Mae Llywodraeth yr Unol Daleithiau yn rhagweld bod 210,000 o alwyni eisoes wedi gollwng, sydd gyfystyr â 5,000 o farilau’r dydd.
Mae peirianwyr BP wedi bod wrthi ers dydd Gwener ddiwethaf yn ceisio gosod y tiwb hir i mewn i’r twll yr oedd yr olew yn dianc ohono.
Mae’r olew bellach wedi bod yn gollwng ers dros dair wythnos gan beryglu bywyd môr, pysgota masnachol a’r diwydiant twristiaeth o Louisiana i Florida.
Dywedodd Arlywydd yr Unol Daleithiau bod ymdrechion cwmnïau olew i osgoi cyfrifoldeb dros y clwt olew yn “wirion”.