Dylai staff gofal iechyd gael eu hyfforddi i atal gwahaniaethu yn erbyn cleifion gyda HIV, meddai ACau heddiw.
Dywedodd ACau y dylai ymgynghorwyr a nyrsys ddarparu hyfforddiant ar gyfer aelodau eraill o staff ynglŷn â’r cynnydd mewn gofal ar gyfer HIV.
Clywodd y Pwyllgor Cyfle Cyfartal fod yna ddiffyg dealltwriaeth ynglŷn â sut mae pobol yn dal HIV a sut mae o’n cael ei drin.
Mae sut y mae pobol yn gweld yr afiechyd yn seiliedig i raddau helaeth ar ymgyrchoedd iechyd cyhoeddus y 80au a’r 90au, meddai’r pwyllgor mewn adroddiad.
Mae nifer o bobol yn dal i weld HIV fel dedfryd o farwolaeth, er gwaetha’r ffaith bod nifer o gleifion yn dal i fyw bywydau arferol, meddai’r pwyllgor.
Galwodd y pwyllgor am ymgyrch gyhoeddusrwydd newydd i roi’r ffeithiau i bobol Cymru. Dywedodd fod yna ‘stigma’ ynglŷn â’r firws, gyda chleifion yn cael eu gweld fel defnyddwyr cyffuriau neu hoywon.
Yn 2007 amcangyfrifodd yr Asiantaeth Gofal Iechyd bod 77,400 o bobol ym Mhrydain yn dioddef o HIV, a bod tua 28% o’r rheini heb gael diagnosis.
“Mae’n annerbyniol bod unrhyw un sy’n byw gyda HIV yn dioddef o wahaniaethu yn eu herbyn gan ddarparwyr gofal iechyd,” meddai cadeirydd y pwyllgor Ann Jones.
“Pwynt allweddol mae’r ymgyrch wedi ei amlygu yw bod yna wahaniaeth barn ynglŷn ag a yw’r ymddygiad yn ganlyniad i ddiffyg gwybodaeth ynteu adlewyrchiad o agwedd gwahaniaethol.”