Mae pensiynwr wedi treulio bron i wyth mlynedd yn cwblhau jig-so 5000 o ddarnau, cyn darganfod fod un darn ar goll.

Roedd Jack Harris, 86 oed, o Shepton Mallet yng Ngwlad yr Haf wedi treulio blynyddoedd ar y jig-so pum troedfedd o hyd oedd yn cymryd lle ar fwrdd y gegin.

Mae’n beio ei gi am fwyta’r darn olaf. Cafodd y jig-so sy’n dangos darlun Return Of The Prodigal Son, gan James Tissot, fel anrheg Nadolig gan ei ferch yn 2002.

Roedd hi wedi rhoi’r jig-so iddo fel jôc am ei fod o’n brolio pa mor gyflym oedd o’n gallu eu gorffen nhw.

Dywedodd Jack Harris wrth y Daily Mail ei fod o wedi gobeithio cwpla’r jig-so erbyn mis Mawrth y flwyddyn honno fel ei fod o’n gallu treulio amser allan yn yr ardd.

Mae cynhyrchwyr y jig-so, Falcon Games, wedi rhoi’r gorau i’w gwneud nhw felly fe fydd hi’n anoddach dod o hyd i’r darn mewn bocs arall.