Mae dynes wedi’i chyhuddo o geisio llofruddio’r Aelod Seneddol, Stephen Timms, meddai Scotland Yard heddiw.
Fe gafodd Stephen Timms ei drywanu ddwywaith wrth gynnal cymhorthfa yn Llundain.
Fe fydd Roshonara Choudhary, 21, sy’n ddi-waith, yn ymddangos gerbron Llys Ynadon Stratford ddydd Llun.
Yn ôl cyfeillion, mae’r Aelod Seneddol sy’n 54 oed, yn gwella yn yr ysbyty. Mae wedi gweld ffrindiau a derbyn ymwelwyr.
Mae’n bosib y bydd trefniadau diogelwch ar gyfer aelodau seneddol yn cael eu cryfhau ar ôl y digwyddiad.
Fe ddywedodd arweinydd tros dro’r Blaid Lafur, Harriet Harman, bod angen i’r Senedd ystyried bellach sut y mae gwneud yn siŵr bod aelodau seneddol yn gallu gwneud eu gwaith yn ddiogel.