Fe fydd gŵyl gelfyddydol newydd yn cael ei chynnal yn Nhudweiliog ym Mhen Llŷn eleni ar gyfer y gymuned leol ac ymwelwyr.

Nod gŵyl gelfyddydol newydd ‘Taran Tudweiliog’ yw “codi ymwybyddiaeth o ddoniau pobl ifanc y gymuned leol,” meddai’r trefnwyr.

Fe fydd elw’r ŵyl yn mynd tuag at yr ysgol leol, y capel, yr eglwys, y clwb pensiynwyr ac i gynnal a chadw’r fynwent.

Fe fydd gweithgareddau ysgafn fel perfformiadau a gweithdai yn cael eu cynnal yn ystod y dydd yn ogystal âg amrywiaeth o fandiau a cherddoriaeth gyda’r nos.

“O ran pobl sydd am ddod i’w ŵyl, ydan ni’n gobeithio y daw pobl o bob oed ac o bob math o gefndiroedd, ymwelwyr gwyliau haf yn ogystal â phobl leol Pen Llyn a thu hwnt,” meddai Sioned Medi Jones o Bwllheli, trysorydd yr ŵyl.

“Mae amrywiaeth o gerddoriaeth a gweithgareddau’n cael eu cynnal a ‘dw i’n siŵr y bydd yna rywbeth at ddant pawb.”

Yr enw cyntaf i drefnwyr feddwl amdano oedd ‘Twrw Tudweiliog,’ ond gan nad oedd yr ŵyl eisiau “dychryn y trigolion oedd yn byw wrth ymyl y cae sioe” dyma ail enwi’r ŵyl yn ‘Taran Tudweiliog.’

“Mae taran Tudweiliog yn delweddu’r ffaith fod yr ŵyl am daro’r pentref ar ardal megis mellten a bydd y pentrefwyr yn sicr o glywed Tudweiliog yn taranu yn ystod y penwythnos!” meddai Sioned Medi Jones.

Fe fydd gŵyl Taran Tudweiliog yn cael ei chynnal yn ystod penwythnos Gorffennaf 9fed a 10fed 2010.

Arlwy’r Dydd

Dydd Gwener, Gorffennaf 9fed 2010

Gweithdy rapio a ‘beatbox’ efo Ed Holden. (disgyblion yr ysgol yn unig)

Perfformiadau gan ddisgyblion yr ysgol gan gynnwys perfformiad o’r gwaith rapio â Ed Holden.

Bore Sadwrn, Gorffennaf 10fed, 2010

Gweithdy clocsio i ddechreuwyr gyda Huw Clocsio

Gweithdy arlunio sy’n mynd ymlaen drwy’r dydd gyda grwpiau gwahanol bob awr

Gweithdy sgiliau Syrcas efo James Carpenter o gwmni Syrcas-Circus

Prynhawn Sadwrn

Gweithdy clai a chrochenwaith 2 sesiwn

Gweithdy clocsio lefel uwch gyda Huw Clocsio

Arlwy’r Nos

Taran Tudweiliog – Nos Wener

Ceilidh. (Dawnsio Gwerin) efo Meg a Neil Browning

Dukes of Acid

Wil Tan

John ac Alun

Taran Tudweiliog Nos Sadwrn

Seindorf Ieuenctid Pwllheli a’r Cylch

Herbs and Leeks (canu gwerin)

Cowbois Rhos Botwnnog

Tailor Maid (grwp ‘Soul’)

Gwibdaith Hen Fran