Fis nesaf, fe fydd Bryn Terfel yn ymuno gyda’r soprano Rebecca Evans a’r tenor Robert Tear i benderfynu pwy fydd enillydd Cystadleuaeth i Gantorion Cymreig 2010 ac yn cynrychioli Cymru yng Nghystadleuaeth Canwr y Byd Caerdydd 2011.

Fe fydd Catrin Aur Davies, 30 oed o Beulah, Rebecca Afonwy-Jones, 31 o Sir Drefaldwyn, John Pierce, 27 o Sir y Fflint, a Samuel Evans, 30 o Aberaeron i gyd yn brwydro am y teitl. Bydd yr enillydd hefyd yn derbyn gwobr o £2,000 a thlws.

Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC o dan arweiniad Grant Llewellyn fydd yn cyfeilio i’r cantorion yn y rownd derfynol yn Neuadd Dewi Sant Caerdydd Nos Lun 28 Mehefin, 2010.

Cystadleuaeth yw hon ar gyfer cantorion ar ddechrau eu gyrfa broffesiynol ac mae’n agored i rai sydd rhwng 18 a 32 oed ar Fehefin 1 2011, a anwyd a fagwyd yng Nghymru, ac sydd wedi derbyn rhan helaeth o’u haddysg yng Nghymru.

Bryn Terfel ei hun yw’r enwoca’ o’r cantorion Cymreig yn y gystadleuaeth – trwy ennill y wobr Lieder yng ngornest Canwr y Byd y dechreuodd gael sylw rhyngwladol.