Marwolaeth ei nain yn 106 oedd y sbardun i artist sydd wedi ennill cystadleuaeth Celf Agored 2010 Cyngor Gwynedd.

Fe wnaeth Isobel Crawford o Fae Colwyn ennill y gystadleuaeth gyda’r print digidol archifol ‘It Wasn’t Always Like This’.

“Yn nhŷ fy nain (yn yr Alban) y cafodd y llun ei dynnu – ar ôl gwagio’r tŷ wythnos ar ôl ei marwolaeth yn 106,” meddai Isobel Crawford wrth Golwg360.

“Mae’n rhyfedd, weithiau rydach chi’n tynnu llun heb wybod pam … Ond, ar ôl eistedd i lawr a meddwl am y peth daeth pethau’n gliriach.

“Roedd yn ymwneud â chadw’r cof ohoni’n fyw – am fy mod i’n ei cholli.

“Roedden ni’n agos iawn – hyd nes pan oedd hi’n 100, roedden ni’n dal i gyfnewid llyfrau ar ôl eu darllen.”

A hithau’n byw yng Nghymru ers blynyddoedd, roedd hi’n falch o weld y llun yn yr arddangosfa.

“Roedd yn brofiad emosiynol gweld fy ngwaith ar y wal – yn brofiad a gafodd effaith arna’ i. Mae’n anarferol i mi ddewis gwneud rhywbeth personol fel hyn ac mae pobl wedi dweud wrtha’i fod y darlun yn eu hatgoffa o golled.”

Gofodau

Mae’r artist yn hoff o ddefnyddio gofod heb bobol, meddai.

“Dw i’n meddwl fod gen i empathi gyda llefydd gwag o’r fath.

“Pan mae yna bobl ynddyn nhw, dydyn nhw ddim yn gweithio. Mae’n well gen i gael ystafelloedd yn wag.”

Er hynny, mae’r artist yn rhannu gofod stiwdio gyda phedwar arall yn y Central Art Studios Cymru yn Llandudno. Ac mae’n hoff o’r gefnogaeth gan artistiaid eraill.

Mae Isobel Crawford newydd gael cadarnhad fod un o’i gweithiau wedi’i dderbyn i arddangosfa’r International Royal Photographic Society ac fe fydd arddangosfa ganddi yn llyfrgell Bae Colwyn fis Medi.

‘Cymeradwyaeth’

Fe gafodd gweithiau celf eraill gymeradwyaeth:

• ‘Sea Dream 3’, gwaith sialc a phastel gan Susan Gathercole
• ‘Charlotte’s Shell (Shelf Life)’, gwaith olew gan Pam Green
• ‘Sir Benfro’ darn cyfrwng cymysg gan Marian Jones
• ‘Lower Braich Gallery’ gwaith acrylig ac inc gan Arfon Jones
• Pâr o weithiau olew ‘Bethesda Shops’ gan Martin Morley
• ‘Little Dancer aged 84’, cerflun gan Wendy Mayer.

Fe gafodd dros 200 o weithiau eu cyflwyno i gystadleuaeth Celf Agored 2010 ac fe fydd yr arddangosfa yn cael ei chynnal yn Oriel Pendeitsh Caernarfon hyd 20 Mehefin.

Dyma’r bymthegfed flwyddyn yn olynol i’r gystadleuaeth gael ei chynnal, gan roi cyfle i arddangos amrywiaeth eang o waith celf gan gynnwys paentiadau, darluniau, ffotograffau a rhai cerfluniau.

(Llun: Darlun o ‘It Wasn’t Always Like This’)