Rhai o gyn enillwyr Eisteddfod yr Urdd fydd yn agor yr ŵyl yng Ngheredigion eleni mewn cyngerdd yn y pafiliwn ar faes yr ŵyl yn Llanerchaeron.
Bydd tri o gyn-enillwyr Ysgoloriaeth Bryn Terfel – Rhys Taylor, Rakhi Singh a Rhian Lois – yn rhannu’r llwyfan gyda Chôr Ysgol Gerdd Ceredigion a nifer o sêr lleol.
Mae’r artistiaid eraill a fydd yn perfformio yn y gyngerdd yn cynnwys:
• Dewi ‘Pws’ Morris
• Gwawr Edwards
• BB Aled Haydn Jones
• Chris Lewis
• Triawd Tynrhos- y brodyr Robin Lyn, Dewi Sion ac Ifan
• Georgina Ruth Williams
Rhian Lois ‘yn falch’
Un sy’n falch iawn o fod yn dychwelyd i berfformio ym mro ei mebyd yw’r gantores Rhian Lois, sy’n wreiddiol o Bontrhydygroes, cyn ddisgybl o Ysgol Uwchradd Tregaron sydd bellach yn dilyn cwrs ôl-radd yn y Coleg Brenhinol yn Llundain.
“Rwy’n edrych ymlaen yn fawr iawn at gael dychwelyd i Geredigion ac i berfformio ar lwyfan Eisteddfod yr Urdd yn Llanerchaeron a gweld cymaint wynebau cyfarwydd,” meddai Rhian Lois.
“Mae ’nyled i’n fawr iawn i’r Urdd am y cyfleoedd ges i dros y blynyddoedd. A nawr rwy’n sylweddoli cymaint mae hyn wedi helpu fy ngyrfa”
“Mae’r nerfau gymaint llai rhywsut wedi cael y profiad o fod ar lwyfan ac o flaen camerâu teledu yn Eisteddfod yr Urdd”
“Wy’n aml yn siarad am yr Eisteddfod gyda fy nghyd-fyfyrwyr ac mae’n amlwg mai ar wahân i Awstralia – sydd â thraddodiad eitha’ cryf o eisteddfodau – mai ni yng Nghymru yw’r unig wlad sy’n cynnig y cyfleoedd yma i’w hieuenctid. Mae’n rhoi cymaint o hwb i ni,” ychwanegodd Rhian Lois.
(Llun: Oddi ar wefan Eisteddfod yr Urdd)