Mae Arlywydd yr Unol Daleithiau wedi ymosod ar gwmnïau olew am feio’i gilydd tros ddamwain olew Gwlff Mecsico.

Roedd eu hymdrechion i osgoi cyfrifoldeb yn “wirion”, meddai Barack Obama, wrth addo y byddai’n ceisio cryfhau’r rheolaeth tros y diwydiant.

Fe ddywedodd bod angen rhoi diwedd ar y “berthynas gyfforddus” rhwng y cwmnïau a’r swyddogion oedd bod i gadw llygad arnyn nhw.

Roedd yn honni hefyd bod gormod o drwyddedau drilio wedi’u rhoi gan y llywodraeth yn Washington heb gynnal arolygon amgylcheddol digon trylwyr.

Ymgais arall

Mae cwmni olew BT, perchnogion y llwyfan olew a ffrwydrodd ac achosi’r trafferthion, yn rhoi cynnig unwaith eto i atal yr olew rhag mynd i’r môr.

Maen nhw’n ceisio defnyddio pibell denau i dynnu’r olew i long gerllaw – y gred yw bod cymaint â 4 miliwn o alwyni eisoes wedi gollwng i’r Gwlff.

Fe ddywedodd Barack Obama ei fod yn rhannu “dicter a rhwystredigaeth” pobol ynglŷn â’r hyn sydd wedi digwydd.

“Mae yna hen ddigon o fai ar gael; fe ddylai pawb fod yn fodlon derbyn eu rhan ohono,” meddai’r Arlywydd.

Llun: Yr ymdrech i atal yr olew (AP Photo)