Mae’n bosib y bydd trefniadau diogelwch ar gyfer aelodau seneddol yn cael eu cryfhau ar ôl i’r cyn weinidog Stephen Timms, gael ei drywanu ddwywaith wrth gynnal cymhorthfa.
Fe ddywedodd arweinydd tros dro’r Blaid Lafur, Harriet Harman, bod angen i’r Senedd ystyried bellach sut y mae gwneud yn siŵr bod aelodau seneddol yn gallu gwneud eu gwaith yn ddiogel.
Mae gwraig 21 oed yn cael ei holi gan yr heddlu ar ôl yr ymosodiad ar Stephen Timms, AS East Ham. Mae’n debyg bod un o gynorthwywyr y gwleidydd wedi cymryd cyllell oddi arni.
Does dim esboniad am yr ymosodiad chwaith – roedd y wraig wedi trefnu i ddod i weld yr AS ac yn ôl un llygad dyst i’r digwyddiad mewn llyfrgell yn Newham, mae’r wraig o dras Asiaidd.
Gwella
Yn ôl cyfeillion, mae Stephen Timms, sy’n 54 oed, yn gwella yn yr ysbyty. Mae wedi gweld ffrindiau a derbyn ymwelwyr.
Roedd Harriet Harman a’r Prif Weinidog, David Cameron, wedi anfon neges ato i ddymuno’n dda.
Fe ddaeth neges a chyngor hefyd gan y cyn AS Nigel Jones. Fe gafodd yntau ei anafu ac fe gafodd un o’i weithwyr ei ladd mewn ymosodiad gan ddyn gyda chleddyf yn 2000.
Roedd angen i ASau gymryd cyngor gan yr heddlu a chryfhau eu trefniadau diogelwch, meddai.
Llun: Harriet Harman – angen ailystyried