Neithiwr, fe ddaeth hi’n amlwg bod y cyn Weinidog Ynni, Ed Miliband, yn mynd i herio’i frawd hŷn, David, yn yr ornest dros yr haf.

Roedd wedi bwriadu gwneud y cyhoeddiad swyddogol yr wythnos nesa’, ond fe ollyngwyd yr wybodaeth ar ôl iddo sôn am ei fwriad wrth ei blaid leol yng Ngogledd Doncaster.

Fe ddywedodd ei fod eisiau i Lafur ddod o hyd eto i’w “theimlad o genhadaeth” ac fe fydd yn dweud rhagor am ei syniadau mewn darlith i’r Gymdeithas y Ffabiaid heddiw.

Fe fydd yn awgrymu bod Llafur wedi colli cysylltiad gyda’r bobol y mae’n ei chynrychioli a bod angen ail afael eto yng “ngwerthoedd blaengar” blynyddoedd cynnar llywodraeth Tony Blair.

Miliband v Miliband

Ed Miliband oedd yn gyfrifol am dynnu maniffesto’r Blaid Lafur at ei gilydd ar gyfer yr etholiad ond David Miliband, y cyn Ysgrifennydd Tramor, sydd wedi bod fwya’ amlwg hyd yn hyn.

Roedd yna sôn mawr y byddai’n herio Gordon Brown y llynedd ond ddaeth dim o hynny.

Mae Ed Miliband yn cael ei ystyried yn gymeriad mwy agored a phoblogaidd ond mae’r ddau’n cael eu hedmygu am eu gallu strategol a gwleidyddol.

Mae’r ddau wedi dweud na fyddan nhw’n gadael i’r gystadleuaeth amharu ar eu perthynas bersonol a does yna ddim llawer o wahaniaethau gwleidyddol amlwg rhyngddyn nhw.

Ed Balls yn ‘ystyried’

Mae disgwyl i weld hefyd a fydd y cyn Ysgrifennydd Ysgolion, Ed Balls, yn sefyll gan gynrychioli’r adain Frownaidd o fewn y blaid. Mae’n debyg ei fod yn ystyried ac yn trafod gyda chyfeillion cyn penderfynu.

Hyd yn hyn, does dim sôn am ymgeisydd o’r adain chwith draddodiadol ond fe allai’r AS John Cruddas sefyll ar ôl cynnal ymgyrch gref am ddirprwy arweinyddiaeth y blaid y tro diwetha’.

Er ei fod wedi awgrymu na fydd yn sefyll, mae pwysau o hyd ar i’r cyn Ysgrifennydd Cartref, Alan Johnson, daflu ei het i’r cylch.