Mae o leia’ 16 o bobol wedi cael eu lladd ym mhrifddinas Gwlad Thai yn ystod y 24 awr diwetha’.

Ar ôl diwrnod o ymladd, fe barhaodd y gwrthdaro tros nos rhwng milwyr a phrotestwyr Crysau Coch yng nghanol Bangkok.

Mae’r milwyr yn ceisio closio at y gwersyll tros dro lle mae tua 10,000 o’r gwrthdystwyr yng nghalon yr ardaloedd masnachol.

Mae’r protestwyr yn defnyddio arfau cartref – yn fomiau tân a cherrig – tra bod y fyddin yn taro’n ôl gyda bwledi byw a bwledi rwber.

Yn ôl yr awdurdodau, mae 157 hefyd wedi brifo – mae’n golygu bod 43 o bobol wedi marw a 1,600 wedi eu hanafu ers i’r protestio ddechrau ar 12 Mawrth.

Ban Ki-moon yn galw am heddwch

Yn awr, mae Ysgrifennydd Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig, Ban Ki-moon, wedi galw ar y ddwy ochr i drafod i osgoi rhagor o drais a marwolaethau.

Mae rhai o’r protestwyr wedi galw ar i frenin y wlad ymyrryd, ond does dim ymateb wedi bod gan Bhumibol Adulyadej, sy’n 82 oed.

Mae’r Crysau Coch yn galw ar i Lywodraeth Gwlad Thai ymddiswyddo a galw etholiadau newydd – maen nhw’n honni mai’r fyddin sydd yn eu cadw mewn grym.

Y gwrthdaro

Mae yna anghydfod cymdeithasol hefyd, gyda’r Crysau Coch, sy’n dod yn benna’ o’r ardaloedd gwledig mwy tlawd, yn cyhuddo’r llywodraeth o ffafrio’r elît dinesig.

Ers i’r protestio ddechrau, mae llawer o’r siopau a’r gwestai moethus yng nghanol Bangkok wedi gorfod cau, mae ffyrdd wedi’u rhwystro a gorsafoedd trên tanddaear ynghau.

Yn ystod y dyddiau diwetha’, fe benderfynodd nifer o wledydd gau eu llysgenadaethau – gan gynnwys gwledydd Prydain.

Llun: Protestiwr yn taflu concrid (AP Photo)