Fe deithiodd yr Adar Gleision i Gaerlyr heddiw, gydag un bwriad yn unig – ennill y gêm, a chamu’n nes at le yn yr Uwch Gynghrair y tymor nesaf.

Am 3.15yp heddiw, roedden nhw wedi cyflawni’r nod. Fe guron nhw Gaerlyr 1-0 yn Stadiwm Walkers, gyda’r gôl fuddugol yn cael ei sgorio chwarter awr cyn diwedd y gêm gan Peter Whittingham.

Fe fydd ail gymal y gêm yn cael ei chynnal yng Nghaerdydd nos Fercher.

Agos, agos

Fe orffennodd Caerdydd yn bedwerydd yn y Bencampwriaeth ar ddiwedd y tymor hwn, gyda Chaerlyr yn bumed ond gyda’r un nifer o bwyntiau – sef 76.