Mae Prif Weinidog yr Alban, Alex Salmond, wedi cynnig clymblaid ‘enfys’ rhwng ei blaid ei hun yr SNP, Llafur a Phlaid Cymru.

Nid y trafodaethau sy’n digwydd ar hyn o bryd rhwng y Democratiaid Rhyddfrydol a’r Torïaid yw’r unig opsiwn, meddai.

“Mae yna gyfres o bethau a allai fod yn bosib… ddylai’r Democratiaid ddim cael eu gwthio i feddwl mai’r cytundeb gyda’r Ceidwadwyr ydi’r unig bosibilrwydd.

“Mae’n amlwg fod y blaid Lafur wedi colli’r etholiad, ond mae hi hefyd yn amlwg na wnaeth y Ceidwadwyr ennill yr etholiad.

“Dw i’n meddwl mai clymblaid yn cynnwys Llafur, yr SNP, Plaid Cymru ac efallai rhai pleidiau llai eraill yn San Steffan, fyddai’n cynnig yr opsiwn gorau i’r Alban.”