Mae arbenigwyr ar hedfan yn rhybuddio y gallai llwch y llosgfynydd yng Ngwlad yr Iâ amharu ar ehediadau i’r Unol Daleithiau.

Mae’r corff sy’n goruchwylio hedfan yn Iwerddon, yr IAA, yn dweud y gallai teithiau awyr y deuddydd nesa’ gael eu heffeithio. Mae’r cwmwl llwch yn gorchuddio ardal 2,000km o hyd a 1,300km o led ar hyn o bryd, medden nhw.

Mae arbenigwyr wedi disgrifio’r cwmwl fel un “sylweddol” o ran maint, ac maen nhw’n dweud hefyd y gallai effeithio llwybrau awyrennau eraill.

“Tra bod y gwyntoedd gogleddol yn gadw’r cwmwl allan dros Fôr Iwerydd, mae maint y cwmwl yn peri risg o hyd, yn enwedig os bydd y gwynt yn newid cyfeiriad,” meddai llefarydd ar ran yr IAA heddiw.