Mae arweinydd y Blaid Geidwadol wedi cynnig cydweithio gyda’r Democratiaid Rhyddfrydol i ffurfio llywodraeth nesaf y Deyrnas Unedig – a hynny unai trwy ffurfio llywodraeth leiafrifol neu lywodraeth glymblaid yn San Steffan.

Nododd David Cameron y pwysigrwydd i allu llunio llywodraeth newydd cyn gynted ag sy’n bosib oherwydd y problemau sy’n wynebu’r ‘wlad’. Fe wnaeth ei sylwadau mewn araith chwarter awr am 2.40yp heddiw,

“Mae Prydain wedi pleidleisio ddoe am newid, ac mae angen i ni roi trefn ar bethau yn gyflym,” meddai David Cameron.

Cyfaddawdu

Dywedodd David Cameron y byddai angen i’r ddwy blaid gyfaddawdu er mwyn lles dod i gytundeb, ac fe aeth mor bell â dweud y byddai’n fodlon ystyried newid y drefn bleidleisio, sef un o brif nodau maniffesto’r Democratiaid Rhyddfrydol.

Ond, fe bwysleisiodd hefyd na fyddai’r Ceidwadwyr yn symud modfedd ar eu safiadau ynglŷn â throsglwyddo mwy o bŵer i Ewrop, rheoli mewnfudo na’u polisi amddiffyn.

Disgwyl trydydd datganiad

Roedd disgwyl i Nick Clegg, arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol, wneud datganiad cyn tri o’r gloch heddiw, ond mae’r cyhoeddiad hwnnw wedi ei ohirio yn dilyn sylwadau David Cameron.