Mae Pontypridd wedi cael eu diarddel o rownd gyn-derfynol y gemau ail gyfle ar ôl cael eu canfod yn euog o ddefnyddio chwaraewr anghymwys mewn gêm yn erbyn Llanymddyfri.

Fe enillodd Pontypridd 21-12 yn erbyn Llanymddyfri ar Heol Sardis ddydd Llun diwethaf.

Ond, Llanymddyfri fydd yn mynd yn eu blaenau i wynebu Castell-nedd ar y Gnoll yr wythnos nesaf.


Camgymeriad

“Fe hoffai Pontypridd ei gwneud hi’n glir mai camgymeriad oedd e, ac nid ymgais fwriadol i dwyllo,” meddai Pontypridd mewn datganiad.

“Roedd y Pwyllgor Rheoli wedi derbyn hyn, ond roedd ganddyn nhw ddyletswydd i weithredu gan fod y clwb wedi torri rheolau’r gystadleuaeth.”

Dyma’r tymor cyntaf i Uwch Gynghrair Cymru gynnwys gemau ail-gyfle, gyda’r wyth tîm uchaf yn cystadlu i gipio’r bencampwriaeth.