Mae chwaraewr Cymru, Gareth Bale wedi rhoi stop ar y sïon ynglŷn â’i ddyfodol trwy arwyddo cytundeb newydd gyda chlwb Tottenham Hotspur.

Roedd yna nifer o adroddiadau yn awgrymu bod rhai o brif glybiau Ewrop, gan gynnwys Manchester United, Inter Milan ac AC Milan, yn barod i drio ei hudo dros yr haf.

Ond mae’r Cymro, a ymunodd gyda Spurs yn 2007, wedi ymrwymo ei hun i’r clwb tan 2014.


Cynghrair y Pencampwyr

Fe gipiodd tîm Harry Redknapp eu lle yng Nghynghrair y Pencampwyr gyda buddugoliaeth 1-0 yn erbyn Manchester City nos Fercher, ac fe fydd y rheolwr yn awyddus iawn i gadw ei sêr ar gyfer y tymor nesaf.

“Mae’r clwb wrth eu bodd gyda’r newyddion bod Gareth Bale wedi arwyddo cytundeb newydd a fydd yn para tan 2014,” meddai datganiad gan glwb Tottenham Hotspur.

Fe gafodd y Cymro ei enwi’n chwaraewr y mis y mis diwetha’, ar ôl sgorio goliau yn y gemau llwyddiannus yn erbyn Arsenal a Chelsea.