Fe fydd Quins Caerfyrddin yn chwarae yn rownd derfynol y Cwpan SWALEC am y tro
cyntaf yn eu hanes yfory.
Fe fyddan nhw’n wynebu Llanelli, tîm mwya’ llwyddiannus y gystadleuaeth, a hynny yn Stadiwm y Mileniwm, Caerdydd.
Dyma fydd yr 20fed tro i Dre’r Sosban chwarae yn y rownd derfynol, wrth iddyn nhw dargedu ennill y gystadleuaeth am y 14eg tro yn eu hanes.
Fe gurodd y Quins Pontypridd 41-12 i gyrraedd y rownd derfynol tra bod Llanelli wedi trechu Caerdydd 46-25.
Synnu
Er bod Quins Caerfyrddin wedi synnu nifer trwy gyrraedd y rownd derfynol wedi eu tymor cyntaf yn ôl yn yr Uwch Gynghrair, maen nhw’n credu y gallen nhw ennill y cwpan y tro hwn.
“Mae’n rhaid cofio ein bod ni yn Adran Un y Gorllewin adeg yma’r llynedd, felly r’yn ni’n hapus iawn i gyrraedd y rownd derfynol,” meddai rheolwr Quins Caerfyrddin, Steffan Thomas.
“Mae gen i’r parch mwyaf i Lanelli, ond dw i ddim yn gweld un rheswm pam na allwn ni ennill.
“Mae cyrraedd y rownd derfynol wedi rhoi hwb mawr i’r clwb, ond r’y ni am ennill.”
Pwysau
Tra bod tipyn o bwysau ar Lanelli fel ffefrynnau i ennill yfory, mae Pennaeth Rygbi’r clwb, Anthony Buchanan wedi dweud bod gan ei chwaraewyr ddigon o ysgogiad ar gyfer maeddu eu cyd glwb o ranbarth y Scarlets.
“Mae’r Cwpan SWALEC yn rhan fawr o galendr rygbi Cymru. Mae’n uchelgais mawr i glybiau gyrraedd y rownd derfynol. Ond dyw’r gystadleuaeth ddim amdano gyrraedd y rownd derfynol- ond ei ennill,” nododd Anthony Buchanan.
Carfan Quins Caerfyrddin
Anthony Rees; Richard Carter, Andrew Banfield, Tristan Davies, Jamie Davies; Gareth Cull, Sililo Martens; Andrew Beaujean, Rich Wilkes, Kevin Jones, Gavin Evans, Martin Morgan, Andrew Thomas, Ellis Lloyd, Sione Timani.
Eilyddion – Math Monaghan, Craig Kelly, Simon Gardiner, Chris Jones, Gareth Williams, Ricky Richards, James Garland.
Carfan Llanelli
Daniel Newton; Dale Ford, Nick Reynolds, Scott Williams, Chris Keenan; Steve Shingler, Gareth Davies; Shaun Hopkins, Craig Hawkins, Jamie Corsi, Joel Galley, Nathan White, Adam Powell, Duane Eager, Ben Morgan
Eilyddion – Ceri Jones, Rhys Lawrence, Edward Siggery, Steffan Phillips, Justin James, Steve Martin, Johnny Lewis