Mae’r Tywysog Harry yn mynd i hyfforddi i fod yn beilot hofrennydd ymosod Apache, sy’n cynyddu’r posibilrwydd y gallai ddychwelyd i faes y gad.
Yn ôl llefarydd ar ran y teulu brenhinol, roedd swyddogion yn credu fod ei allu yn gweddu i’r math yma o hofrennydd.
Maes y gad
Yn ôl y sôn, mae’n fwy tebygol y gallai’r Tywysog Harry gael ei anfon i faes y gad fel peilot, yn hytrach nac fel milwr. Mae’n debyg mai dyna pam y mae wedi hyfforddi i fod yn beilot gyda’r fyddin.
Mae wedi treulio cyfnod o ddeg wythnos yn nhalaith Helmand, Affganistan rhwng 2007 a 2008, ac mae wedi dweud ei fod yn awyddus i ddychwelyd yno.
Apache
Mae hofrennydd yr Apache yn cael ei ddefnyddio i erlyn y Taliban yn Affganistan, yn ogystal â mynd allan i gasglu gwybodaeth, ac i fod yn gefn i hofrenyddion eraill sy’n cario milwyr ac offer.