Mae Gordon Brown yn fodlon trafod sut y gallai’r blaid Lafur a’r Democratiaid Rhyddfrydol sefydlu llywodraeth glymblaid sefydlog yn San Steffan – a hynny er bod arweinydd y Democratiaid, Nick Clegg, wrthi’n trafod â’r Ceidwadwyr ar hyn o bryd.

Mewn datganiad yn Stryd Downing ychydig cyn 2 o’r gloch y pnawn yma, fe gyhoeddodd Gordon Brown ei fod yn ddigon bodlon aros i glywed be’ fyddai canlyniad y trafodaethau rhwng y ddwy blaid arall, ac y byddai’r drws yn llydan agored i Clegg ddod at Lafur wedyn.

“Dydi’r rhain ddim yn ganlyniadau etholiadol cyffredin,” meddai Gordon Brown. “Fy mlaenoriaeth i, fel eich Prif Weinidog ac nid fel arweinydd y Blaid Lafur, ydi ffurfio llywodraeth sefydlog.

“Fe ddylai Mr Clegg gymryd ei amser wrth drafod. Rydw i’n deall ac yn parchu ei fwriadau.”

Dau bwnc cyffredin

Gallai Llafur a’r Democratiaid Rhyddfrydol gydweithio ar o leia’ ddwy nod, yn ôl Gordon Brown.

“Mae’r ddwy blaid eisiau sicrhau sicrwydd economaidd,” meddai, “ac mae’r ddwy blaid hefyd wedi nodi yn eu manifestos eu bod nhw’n awyddus i wneud newidiadau pellgyrhaeddol i’r drefn boliticaidd.”

Dyna pam y byddai’n fodlon trafod gyda Nick Clegg, meddai wedyn.

Cario ymlaen

Tra’n aros, roedd Gordon Brown yn awyddus i bwysleisio ei fod wedi anfon Canghellor y Trysorlys, Alistair Darling, i drafod yr argyfwng ariannol gyda gweinidogion Ewrop ar ran gwledydd Prydain.

Cameron nesa’…

Mae disgwyl i David Cameron, arweinydd y Blaid Doriaidd, wneud datganiad o gwmpas 2.30yp heddiw.