Cynyddodd y nifer o fethdalwyr yng Nghymru a Lloegr am y pumed chwarter yn olynol, yn ôl ffigyrau sydd wedi eu rhyddhau heddiw.
Yn ôl ystadegau gan y Gwasanaeth Methdaliad, fe ddaeth tua 35,682 o bobol yn fethdalwyr yn ystod tri mis cyntaf 2010.
Er hyn, roedd newyddion gwell ar gyfer byd busnes, wrth i’r nifer o gwmnïau a aeth i’r wal neu a gafodd eu rhoi yn nwylo’r gweinyddwyr, leihau.
Methdalwyr
Mae nifer y methdalwyr yng Nghymru a Lloegr wedi cynyddu’n raddol ers tri mis olaf 2007, wrth i gyfuniad o effeithiau’r wasgfa ariannol, y cynnydd mewn diweithdra a chynnydd mewn costau byw, olygu fod mwy o bobol ddim yn gallu ymdopi â’u dyledion.
Mae awgrymiadau y gallai’r nifer gyrraedd 150,000 eleni – o gymharu â 134,142 a aeth i drafferthion ariannol yn ystod 2009.
Yr Alban a Gogledd Iwerddon
Mae ffigyrau’r Gwasanaeth Methdaliad yn nodi hefyd bod llai o fethdalwyr yn yr Alban a Gogledd Iwerddon yn ystod tri mis cyntaf eleni o’i gymharu â’r chwarter blaenorol. Eto, fe fu cynnydd yn nifer y cwmnïau a aeth i’r wal.
Cwympodd y nifer o fethdalwyr yn yr Alban i 5,175. Yng Ngogledd Iwerddon, cwympodd y nifer i 554.
Ond roedd dwywaith cymaint o gwmnïoedd wedi mynd i’r wal yn yr Alban o’i gymharu â’r chwarter blaenorol, wrth i’r nifer gynyddu o 154 i 275. Cynyddodd y nifer yng Ngogledd Iwerddon o 74 i 102.