Gallai British Airways wynebu rhagor o streiciau ar ôl i’w cynnig diweddaraf i geisio datrys anghydfod gyda gweithwyr caban, gael ei wrthod gan aelodau undeb Unite.

Roedd 81% wedi pleidleisio yn erbyn derbyn y cynnig, yn ôl yr undeb, ar ôl i 71% o’r aelodau fwrw pleidlais.

Mae ofnau y gallai gwrthod y cynnig arwain at ragor o weithredu diwydiannol, ond does dim arwydd eto y bydd hyn yn digwydd. Bydd cynrychiolwyr y gweithwyr caban yn cyfarfod â swyddogion Unite ddydd Llun i drafod beth fydd eu cam nesa’.

Fe weithredodd gweithwyr caban yn ddiwydiannol fis Mawrth, gan achosi anrhefn i deithwyr, a cholled o ddegau o filiynau o bunnoedd i BA.

Mae BA wedi rhybuddio na ddaw unrhyw ddaioni o streic arall.

Dim bwriad cytuno

Yn ôl adroddiadau, roedd Unite wedi annog eu haelodau i wrthod cynnig BA.

Y rheswm pennaf am hyn yw bod y cwmni yn parhau i wrthod rhoi consesiynau teithio yn ôl i weithwyr a aeth ar streic yn ystod mis Mawrth.

Yn ogystal, mae dicter am fod dros 50 aelod o’r undeb wedi cael eu hatal o’u gwaith.

“Siom ond dim syndod”

Mae BA wedi dweud eu bod wedi eu siomi “ond ddim wedi’u synnu” na chafodd y cynnig ei dderbyn.

Mewn datganiad, dywedodd y cwmni ei bod hi’n “amlwg” fod Unite wedi “trefnu” fod cynnig “teg iawn” yn cael ei wrthod.

“Rydyn ni’n annog Unite i roi terfyn ar yr anghydfod diangen yma a chanolbwyntio ar les ei haelodau,” meddai BA.

Y ddadl

Mae’r ddadl wedi para ers dros flwyddyn, ac mae’n ymwneud yn bennaf efo cynlluniau BA i leihau costau, sy’n effeithio ar swyddi, cyflog ac arferion gwaith y gweithwyr caban.