Crynodeb Canlyniadau Cymru
Crynodeb o’r canlyniadau a’r seddi sydd wedi newid dwylo
← Stori flaenorol
Alun Ceri Jones
Mae Alun Ceri Jones yn trosi llyfrau Asterix a Tintin i’r Gymraeg ers y 1970au
Hefyd →
Dream Alliance yn ôl yng Nghas-gwent
Fe fydd enillydd diwethaf Grand National Cymru yn dychwelyd i faes ei gamp enwog fory i geisio ail-adrodd hanes.
Mae’r trefnwyr yn hyderus y bydd ras fwya’ Cymru yn mynd yn ei blaen ar yr ail gynnig, er gwaetha’ ychydig ofnau am y tywydd y bore yma.
Fe ennillodd Dream Alliance Grand National Cymru yn 2009 lai na dwy flynedd ar ôl dod yn agos at gael ei roi i lawr.
Torri tennyn
Fe dorrodd dennyn yn y Grand National yn Aintree yn 2008 a dim ond triniaeth bôn gelloedd a lwyddodd i’w achub.
Ond roedd criw o 23 o bobol leol yng Nghefn Fforest ger y Coed Duon, sy’n berchnogion ar Dream Alliance, wedi talu £20,000 am lawdriniaeth flaengar i achub ei yrfa.
Er iddo ennill yng Nghas-gwent yn 2009 mae’r ceffyl wedi cael trafferth cynnal ei lwyddiant ac mae wedi methu â gorffen ei dair ras ddiweddaraf.
Bwcis
Mae ei berfformiadau diweddar yn cael eu hadlewyrchu yn ei bris betio gyda nifer o’r bwcis yn ei osod ar 14/1.
Bu’n rhaid gohirio Grand National Cymru 2010 o’r dyddiad gwreiddiol ar 27 Rhagfyr oherwydd y tywydd gaeafol.
Fe fydd Personoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn y BBC, Tony McCoy, yn cystadlu ar gefn y ffefryn Synchronised.
Llun: Y ffefryn – A.P. ‘Tony’ McCoy (pbase CCA 3.0)