Mae ymgeisydd Plaid Cymru yng Ngheredigion, Penri James yn cyfadde’ nad oedd hi’n syndod mawr iddo fod mwyafrif y Democratiaid Rhyddfrydol wedi cynyddu yn y sir.

Fe wnaeth Mark Williams, AS y Democratiaid Rhyddfrydol yng Ngheredigion, adennill ei sedd gyda mwyafrif o 8,324, gyda gogwydd y sir tuag at ei blaid yn cynyddu 10.6%.

“Doedd y canlyniad ddim yn gymaint â hynny o sioc,” meddai Penri James, ymgeisydd Plaid Cymru, “oherwydd roedden ni’n gorfod ymladd heip dadleuon yr arweinyddion yn ogystal ag ymladd yn erbyn Aelod Seneddol cyfredol.

“Fel arfer mae ASau cyfredol yn cadw eu seddi, a dim ond yn eu colli ar ôl iddyn nhw wneud camgymeriad.”


Cleggmania

Mae Penri James yn credu bod dadleuon arweinyddion pleidiau Llundain wedi cael effaith mawr ar ganlyniadau Etholiad Cyffredinol. Mae golwg 360 yn deall fod y cynnydd yn y gefnogaeth i’r Democratiaid Rhyddfrydol i’w weld ym mhob rhan o’r etholaeth.

“Roedd pleidleiswyr craidd Plaid Cymru wedi mynd allan i bleidleisio, ond roedden ni’n cystadlu gyda Cleggmania,” meddai Penri James.

“R’y ni wedi sefyll yn yr unfan o ran seddi yng Nghymru, ond chafodd Plaid Cymru ddim yr un sylw ag yr oedd pleidiau eraill wedi’i chael.

“Rwy’n credu bod ein hymgyrch wedi bod yn un broffesiynol ac yn agos ati. Ond fe fyddwn ni’n dadansoddi’r canlyniadau i weld beth allwn ni ei wneud yn wahanol.”

Ceredigion “ddim y tu hwnt” i Blaid Cymru

Mae Penri James yn gwrthod bod sedd Ceredigion bellach y tu hwnt i Plaid Cymru er gwaethaf y cynnydd mawr ym mwyafrif y Democratiaid Rhyddfrydol.

“Os allai’r mwyafrif newid o 219 i 8,324 mewn un etholiad, fe allai newid yn ôl hefyd,” meddai.

“Fe fyddwn ni’n gweithio’n galed i sicrhau bod Ceredigion yn cael eu hamddiffyn yn iawn gan y toriadau sy’n cael eu crybwyll.”

A beth am etholiad y Cynulliad y flwyddyn nesa’?

“Mae pleidleiswyr yn ymddwyn yn wahanol iawn mewn etholiad cyffredinol ag y maen nhw yn etholiadau’r Cynulliad. Ond fe fydd angen i ni ymgyrchu’n galed unwaith eto,” nododd Penri James.