Osian Elias a Dafydd Morgan, o Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol Prifysgol Aberystwyth, sy’n edrych ar etholaeth Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro…

Wrth nesau at yr etholiad, roedd tipyn o sôn am effaith tebygol ’Cleggmania’.

Ond, wrth ddadansoddi canlyniadau’r etholaeth, mae’n amlwg mai brwydr rhwng y ‘ddau fawr’ oedd brwydr etholiadol Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro.

Er bod y Democratiaid Rhyddfrydol wedi cipio’r trydydd safle oddi wrth Plaid Cymru o ganlyniad i gwymp o 5.1% ym mhleidlais Plaid, rhaid cofio bod pleidlais y Democratiaid Rhyddfrydol hefyd wedi cwympo 2.1%.


Calonogol

Er bod synnwyr cyffredin yn awgrymu mai’r Ceidwadwyr oedd yn mynd i ennill, roedd twf o 9.8% yn eu pleidlais a gogwydd o 6.9% oddi wrth Lafur yn ganlyniad calonogol iawn i ‘Tory HQ’.

Roedd yn adlewyrchu’r gogwydd oedd ei angen ar y Ceidwadwyr yn genedlaethol er mwyn ennill mwyafrif o 1 yn San Steffan.

Roedd ymgeisydd y Ceidwadwyr, Simon Hart, wedi dweud nad oedd Plaid Cymru a’r Democratiaid Rhyddfrydol yn y ras o gwbwl. Roedd o’n gywir.

Rhes o seddi

Dyma’r drydedd sedd i’r Ceidwadwyr ei chipio neithiwr yng Nghymru, a gyda’r bleidlais iddyn nhw’n cynyddu 4.8% ar draws Cymru, mae’n adlewyrchu cynnydd derbyniol iawn.

Doedd dadl draddodiadol, Lafuraidd Nicholas Aigner ddim yn ddigon i gadw’r sedd i Llafur – er bod Llafur, yn gyffredinol, wedi perfformio’n dda ar draws Gymru neithiwr.

Felly, siom i’r Democratiaid Rhyddfrydol a Phlaid Cymru oedd canlyniad etholaeth Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro.