10pm: Bong! Yn ôl arolwg barn y BBC, ITV a Sky News fe fydd yna Senedd Grog gyda’r Ceidwadwyr yn fyr o 19 sedd. Y Ceidwadwyr ar 307, Llafur ar 255, y Democratiaid Rhyddfrydol ar 59…
10.15pm: Gan Fflur Jones yng nghyfri Delyn – “Wrth ddisgwyl y blychau llawn pleidleisiau yn Delyn mae Llafur yn brysur iawn yn gwneud eu ffordd o amgylch y neuadd yn cymdeithasu gyda’r rhai sy’n cyfri. Arwydd eu bod nhw’n gyfforddus iawn ynteu ydi’r ffaith eu bod nhw yno ymhell cyn y pleidiau eraill yn awgrym o ddiffyg hyder?”
10.28pm: Mae’r pôl piniwn yn awgrymu na fydd hi’n noson cystal â’r disgwyl i’r Democratiaid Rhyddfrydol, a’u bod nhw’n debygol o golli seddi. Ond mae pob sylwebydd wedi nodi nad ydyn nhw’n ffyddiog ynglŷn â’r ffigyrau, am eu bod nhw mor wahanol i beth oedd y polau piniwn cyn yr etholiad yn ei awgrymu, sef y perfformiad gorau ers degawdau i’r Dems Rhydd.
10.34pm: Gan Bleddyn Bowen yng nghyfri Ceredigion, mae ymgeisydd Llafur, Richard Boudier yn dweud fod ganddo gyfle i ennill, a bod ei ods wedi newid o 100-1 i 35-1. Mae pethau mwy rhyfedd nag hynny wedi digwydd yng Ngheredigion. E.e., Plaid yn mynd o bedwerydd i gyntaf yn 1992…
22.45pm: Llawer o sôn am giwio yn y blychau pleidleisio, a bod pobl wedi methu pleidleisio oherwydd hynny. Adroddiad o Sheffield fod heddlu wedi eu galw mewn i symud pobl sydd wedi bod yn ciwio am oriau, ac wedi methu pleidleisio.
22.51pm: Mae’n debyg nad ydi’r Gwyrddion yn ffyddiog y bydden nhw’n sicrhau eu AS gyntaf erioed, Caroline Lucas, heno ‘ma.
22.54pm: De Sunderland wedi ennill y ras i gyhoeddi gyntaf! Buddugoliaeth gyntaf i Lafur… mwyafrif mawr o 10990, ond Llafur wedi colli 12% o’r bleidlais…
23.28pm: Yr ail ganlyniad o Orllewin Sunderland wedi cael ei gyhoeddi. Llafur wedi mynd a honno hefyd, gyda thua’r un faint o’r bleidlais a De Sunderland …
Mae sïon ar led bod y Democratiaid Rhyddfrydol yn obeithiol iawn yng Ngheredigion…
23.46pm: Hedd Gwynfor ar Twitter yn awgrymu bod Plaid Cymru wedi gwneud yn dda iawn yn Llanelli, ond efallai dim digon da er mwyn ennill y sedd.
23.54pm: John Dixon o Blaid Cymru yn Hwlffordd yn dweud fod y blaid yn cael ei “gwasgu” a’u bod nhw am ddysgu o’r ymgyrch yma at y dyfodol. Ydi’r ffaith ei fod o’n defnyddio’r fath iaith mor gynnar yn argoeli’n wael ar gyfer y blaid?
23.57pm: Awgrym cryf ar Radio Cymru fod Llafur yn mynd i ddal gafael ar Ynys Môn, “Plaid Cymru mwy neud lai yn cydnabod nad ydyn nhw’n mynd i gipio Ynys Môn. Mae eu hymgeisydd, Dylan Rees, yn eistedd yn eithaf tawel yma yn y cyfri”.
0.00am: Y “teimlad cyffredinol” yng Ngheredigion erbyn hyn yw bod Mark Williams yn mynd i gadw ei sedd.
0.21am: Mae Nia Griffiths newydd ddweud ar Radio Cymru ei bod hi’n dawel hyderus y bydd hi’n cadw ei sedd yn Llanelli, ond dim ond o drwch blewyn. Mae’n ymddangos bod Plaid Cymru wedi colli’r frwydr i ennill Llanelli, Aberconwy, Ynys Môn a Cheredigion.
0.34am: Arawn Glyn yng nghyfri Arfon – mae hi dal yn agos iawn yn Arfon, meddai Arawn Glyn, ond mae Hywel Williams yn datgan ei fod o’n meddwl ei fod o wedi llwyddo i gadw’r sedd, er ei fod o wedi colli rhai wardiau o fwyafrif bach iawn.
0.39am: Wrth siarad gyda Huw Edwards ar y BBC, mae arweinydd Plaid Cymru Ieuan Wyn Jones yn dweud mai’r “teimlad ydy ein bod ni wedi cael ein gwasgu, a hynny’n reit ddifrifol mewn rhai ardaloedd.”
0.48am: Yn ôl Rhiannon Michael mae yna sïon nad ydi’r Ceidwadwyr yn disgwyl cipio Brycheiniog a Sir Faesyfed oddi ar y Democratiaid Rhyddfrydol.
0.52am: Peter Robinson, arweinydd Plaid yr Unoliaethwyr Democrataidd a Prif Weinidog Gogledd Iwerddon, yn colli ei sedd yn East Belfast.
1am: Canlyniad Arfon: Hywel Williams yn cadw ei sedd.
1.09am: Elin Jones yn edrych yn anhapus yng Ngheredigion. “Does dim gwen fawr ar fy wyneb i,” meddai hi wrth S4C.
1.19am: Canlyniad Ynys Môn: Albert Owen yn cadw ei sedd.
1.36am: Llanelli. Plaid Cymru – 11,215. Llafur – 15,916. Nia Griffith yn cadw ei sedd.
1.52pm: Guto Owen o Lanelli – Wrth i Myfanwy Davies ddiolch i’r etholaeth, dywedodd bod Llanelli yn haeddu gonestrwydd. Cefnogwyr Llafur yn y dorf methu derbyn hyn, bron a cherdded oddi yno.
1.54pm: Dai Davies Llais y Bobol yn colli ei sedd i’r Blaid Lafur ym Mlaenau Gwent.
2am: Nôl yn Delyn, mae Fflur Jones wedi cael gafael ar ymgeisydd y Blaid Lafur David Hanson. Mae’n dweud ei fod o’n “dawel hyderus” ynglŷn â chadw ei sedd
2.13am: Canlyniad Aberconwy: Guto Bebb wedi ei ethol yn sedd newydd Aberconwy.
2.20am: Ceredigion. Penri James, Plaid Cymru – 10,815. Mark Williams, Dems Rhydd – 19,139.
2.22am: Alun Cairns wedi ennill Bro Morgannwg.
2.24am: Glyn Davies yn cipio Maldwyn oddi ar Lembit Opik!
2.28pm: Jonathan Edwards Plaid Cymru yn cadw cyn sedd Adam Price yn saff yn Nwyrain Caerfyrddin a Dinefwr.
2.41am: Canlyniad siomedig arall i’r Democratiaid Rhyddfrydol yng Ngorllewin Abertawe. Dyma oedd prif darged y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru.
2.57am: Jeremy Paxman wedi bod yn gofyn i Lembit Opik beth oedd yn gyfrifol am fuddugoliaeth y Ceidwadwyr ym Maldwyn. Dywedodd Lembit bod unrhyw awgrym mai bai’r Cheeky Girls oedd o yn nawddoglyd ac yn annheg ar Glyn Davies.
3am: David Cameron wedi ei ail ethol yn Witney.
3.09am: Mae Ysgrifennydd Cymru Peter Hain wedi cadw ei sedd.
3.49am: Mae yna ail gyfri yng Ngogledd Caerdydd.
3.52am: Stori’r noson i Vaughan Roderick ar S4C yw’r ffaith bod Llafur wedi cadw “sedd ar ôl sedd” yr oedd disgwyl iddyn nhw eu colli.
4am: Richard Wyn Jones ar S4C yn dweud “bod y Blaid Lafur Gymreig wedi cael noson ryfeddol heno”.
Vaughan Roderick yn dweud eu bod nhw wedi “ffeindio negeseuon sy’n taro tant gyda phobol Cymru”.
4.15am: Mae yna sïon bod Jacqui Smith wedi colli ei seddi yn Redditch i’r Ceidwadwyr.
4.28am: Canran y bleidlais ar draws Cymru: Llafur – 36%, Ceidwadwyr – 26%, y Democratiaid Rhyddfrydol – 20%, Plaid Cymru – 12%.
4.35am: Carwyn Jones ar S4C yn “bles iawn i weld Blaenau Gwent yn dod yn ôl i ni”. Dywedodd fod yna sylfaen cryf i adeiladu tuag at Etholiad y Cynulliad.
4.37am: Mae’r cyn Ysgrifennydd Cartref Jacqui Smith wedi colli ei sedd yn Redditch i’r Ceidwadwyr
5.15am: Mae’r Ceidwadwyr wedi cipio Gogledd Caerdydd… Jonathan Peter Evans wedi cipio sedd Julie Morgan
5.31am: Dyna ni’r sedd olaf o Gymru felly. Pe bai Julie Morgan wedi ei