Mae llywodraeth Brasil yn bwriadu plannu coed olewydd lle’r oedd fforestydd glaw yn arfer bod, a defnyddio’r olew sy’n cael ei gynhyrchu ar gyfer creu tanwydd biodiesel.
Mae’r Arlywydd Luiz Inacio Lula da Silva yn dweud fod y prosiect yn enghraifft o ddau beth – cadwraeth a gwneud elw – yr un pryd.
Ar wahân i’r ffaith y bydd y tiroedd sydd wedi cael eu noethi gan dorri coed yn ystod y degawdau diweddar, fe fydd cynaeafu’r olew yn ffordd gynaladwy o fyw.
Dyw Mr Silva ddim wedi nodi pa mor fawr fydd yr ardal fydd yn cael ei phlannu, ond mae tua 78.6 miliwn o aceri o dir wedi cael eu clustnodi fel ardaloedd addas ar gyfer y coed olewydd.
Fe fydd y cynllun hwn yn canolbwyntio ar dalaith Para, lle mae’r ardaloedd mwyaf o goedwigoedd glaw wedi cael eu dymchwel yn y gorffennol.