Mae’r Almaen o blaid cyfrannu at y pecyn ariannol Ewropeaidd sy’n trio dod â gwlad Groeg allan o ddyled.
Mae un siambr y senedd wedi pleidleisio 390-72 o blaid cyfrannu a chefnogi’r pecyn ariannol sy’n cael ei gefnogi gan Ffrainc hefyd. Roedd 139 o wleidyddion wedi atal eu pleidlais.
Dyma’r bleidlais gyntaf o ddwy heddiw ar y mater. Y pnawn yma, fe fydd ail siambr y senedd, sy’n cynrychioli 16 talaith yr Almaen, yn pleidleisio. Mae disgwyl i’r cynllun dderbyn cefnogaeth rwydd bryd hynny.
Mae gan lywodraeth y Canghellor Angela Merkel fwyafrif yn y ddwy siambr.