Mae’r heddlu’n chwilio am wr 71 mlwydd oed sydd wedi ei ddedfrydu i garchar ar ôl twyllo pobol.
Fe gafodd Peter Allen, sydd hefyd yn ateb i’r enw Harry Capper ymysg eraill, ei roi ar brawf yn Llys y Goron Caerloyw yn 1999, ac fe’i cafwyd yn euog o dri chyhuddiad o dwyllo. Ond mae wedi bod ar ffo ers hynny.
“Dros y degawd diwethaf, mae swyddogion wedi gwneud nifer o ymholiadau ac wedi bod yn chwilio am y gwr yma – ond heb ddim lwc,” meddai Detectif Sarjant Dave Gargett.
“R’yn ni’n gwybod ei fod wedi bod yn ardal Sir Ddinbych yng ngogledd Cymru yn ddiwedd, ac mae ganddo gysylltiadau ag ardal Huddersfield yn Swydd Efrog hefyd.
“R’yn ni’n gwybod ei fod wedi bod yn gweithio yn y busnes ceir ail-law, a hefyd yn y diwydiant adeiladu.”
Help
Mae’r heddlu’n gofyn i unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu gyda nhw ar y rhif 0845 090 1234, neu gyda llinell Taclo’r Tacle yn ddienw ar 0800 555111.