Mae Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr wedi condemnio swyddogion etholiadol ar ôl i fyfyrwyr gael eu troi ymaith wrth geisio pleidleisio yn etholaeth Nick Clegg.

Roedd nifer o fyfyrwyr wedi ciwio neithiwr, ond chawson nhw ddim cyfle i bleidleisio gan fod polau’n cau am 10 o’r gloch, a nhwthau’n dal i aros.

Mae’r undeb hefyd wedi dweud bod yna adroddiadau o oedi mewn sawl etholaeth arall, gan gynnwys Lerpwl Wavetree, De Hackney, Shoreditch a Dinas Caer.

Gwarthus

“Mae’n warthus bod trigolion yn cael eu rhwystro rhag pleidleisio, ac r’yn ni’n mynnu ymchwiliad i sut y digwyddodd hyn,” meddai Wes Streeting, Llywydd Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr.

“R’yn ni wedi cael ein dychryn i glywed bod myfyrwyr wedi cael ei gwahanu oddi wrth bleidleiswyr eraill, a’u gosod mewn ciw arafach.

“Mae’r undebau myfyrwyr wedi gweithio’n galed er mwyn cael mwy o bobol ifanc i bleidleisio,” meddai wedyn.

“Ond y neges sy’n cael ei chyflwyno i’r rheiny sy’n pleidleisio am y tro cynta’ ydi na fydd eu pleidlais yn cael ei chyfri.”