Llafur

Mae Prif Weinidog Cymru ac arweinydd y Blaid Lafur Cymreig wedi dweud bod canlyniadau’r etholiad cyffredinol wedi rhoi sylfaen dda iddynt ar gyfer etholiadau Cynulliad y flwyddyn nesaf.

Fe gipiodd Llafur 26 o’r 40 sedd yng Nghymru – tair yn llai nag yn 2005. Collwyd pedair sedd i’r Ceidwadwyr ond fe enillwyd eu hen gadarnle, Blaenau Gwent, yn ôl.

“Llafur yw’r blaid fwya’ yng Nghymru ac mae’n gosod sylfaen gwych i ni ar gyfer etholiadau’r Cynulliad y flwyddyn nesa’,” meddai Carwyn Jones.

Mae Ysgrifennydd Cymru, Peter Hain wedi dweud bod y canlyniadau’r Blaid Lafur yng Nghymru wedi bod yn fwy na’r disgwyliadau.

“Mae canlyniadau Llafur yng Nghymru wedi drysu ein beirniaid,” meddai Peter Hain.

“Er fy mod i’n drist o golli rhai o fy nghydweithwyr, r’yn ni wedi taro’n ôl wedi perfformiad gwael iawn yn etholiadau Ewrop y llynedd yn ogystal â chanlyniadau siomedig yn etholiadau’r Cynulliad yn 2007 af etholiadau lleol yn 2008.”

Plaid Cymru

Mae arweinydd Plaid Cymru Ieuan Wyn Jones wedi dweud bod ei blaid yn “weddol siomedig” ar ôl methu ag ennill yr un sedd newydd.

Fe lwyddodd y blaid i adennill y tair sedd oedd yn eu meddiant ers etholiad 2005.

Mae Ieuan Wyn Jones yn credu bod y tair dadl fyw rhwng arweinyddion pleidiau Llundain wedi cael effaith ar ganlyniadau Plaid Cymru.

“Roedd cyd-destun yr etholiad wedi cael ei osod yn gynnar gyda’r sylw i’r dadleuon yr arweinyddion,” meddai.

“Mae’n deg i ddweud ein bod ni wedi cael ein heffeithio mewn rhai ardaloedd.”

Y Democratiaid Rhyddfrydol

Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol wedi galw am ddiwygiad i’r system etholiadol.

“R’yn ni’n hapus bod ein canran o’r bleidlais wedi cynyddu ers 2005, ond r’yn ni’n credu bod y sustem etholiadol yn annheg ac mae angen ei diwygio,” meddai llefarydd ar ran y Democratiaid Rhyddfrydol.

Fe gynyddodd y blaid eu mwyafrif yng Ngheredigion gan gadw seddi yng Nghanol Caerdydd a Brycheiniog a Sir Faesyfed.

Ond fe nododd y Democratiaid Rhyddfrydol eu siom ar ôl i Lembit Opik golli ei sedd yn Sir Drefaldwyn i’r Ceidwadwyr.

“Fe fyddwn ni’n gweithio’n galed i berswadio trigolion y sir na fydd y fflyrtian gyda’r Ceidwadwyr yn para.”

Ceidwadwyr

Mae Ysgrifennydd Cymru yr wrthblaid, Cheryl Gillian, wedi dweud bod canlyniadau’r Torïaid yng Nghymru wedi bod yn “wych”.

“Y Ceidwadwyr yw’r unig blaid yng Nghymru i weld cynnydd mewn seddi – dyma’r mwyaf o ASau i ni yng Nghymru ers 1987,” meddai.

“Mae canran Llafur o’r bleidlais wedi disgyn i’r lefel isaf ers dyddiau Michael Foot.”

Llun: Lembit Opik, sydd wedi colli ei sedd