Dylan Iorwerth ac un olwg ar ganlyniadau’r etholiad…
Ar ôl yr holl halibalŵ am y dadleuon teledu, fe ddiflannodd eu heffaith nhw fel candi fflos yn y geg.
Yng Nghymru, fel trwy wledydd Prydain, fe gafodd y Democratiaid Rhyddfrydol gynnydd bychan yn eu pleidlais a chwymp bychan yn nifer eu seddi.
Roedd polau piniwn yr wythnosau diwetha’n eitha’ agos ati o ran maint pleidlais y Ceidwadwyr a Llafur, ond ymhell ohoni wrth fesur y gefnogaeth i’r Democratiaid.
Beth ddigwyddodd?
Mae’n ymddangos bod y rhai a wirionodd ar arweinydd y Democratiaid, Nick Clegg, wedi cael ofn wrth i’r bleidlais go iawn ddod yn nes.
Yng Nghymru, mae’n ymddangos bod rhybuddion rhai fel Ysgrifennydd Cymru, Peter Hain, wedi llwyddo o leia’ i sefydlogi’r bleidlais Lafur mewn seddi allweddol.
Er bod y blaid wedi colli tua 7% ar lefel ei phleidlais, fe lwyddodd i gadw pob un ond pedair sedd. O edrych ar hanes, roedd yn ganlyniad gwael; o edrych ar ddigwyddiadau’r ddwy flynedd ddiwetha’, roedd yn llawer gwell.
O gymharu â 2002, mae’r Ceidwadwyr wedi llamu’n ôl gyda phum sedd newydd i ychwanegu at eu tair yn 2005.
Y Democratiaid fydd fwya’ siomedig; er iddyn nhw gynyddu eu mwyafrif yng Ngheredigion, roedd colli sedd Lembit Opik ym Maldwyn a methu â chipio Gorllewin Abertawe yn gic yn y dannedd.
Mae Plaid Cymru’n ceisio cuddio’i siom trwy ddweud mai dadl yr arweinwyr Prydeinig oedd ar fai am iddi gael ei gwasgu – cadw’i thair sedd ond methu â gwneud marc mewn rhai eraill.
Wnaeth y newid mawr ddim digwydd … ond fe allai ddod eto. Fe fyddai clymblaid yn newid natur y berthynas rhwng y pleidiau ac mae Lloegr wedi troli’n lasach fyth.
Os bydd Gordon Brown yn taro bargen gyda’r Democratiaid a rhai o’r pleidiau bach yn y gwledydd Celtaidd, efallai mai Lloegr fydd yn gwrthryfela.