Mae dyn wedi marw a 20 arall wedi’u symud o’u cartrefi wedi ffrwydrad mewn fflat yng Nghaerdydd.

Mae swyddogion Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru’n dal ar safle’r tân yn Lydstep Crescent, Western Avenue, Caerdydd. Cawsant eu galw yno wedi hanner dydd heddiw.

Dyw’r dyn a fu farw ar y safle ddim wedi cael ei enwi eto. Ac er nad yw’r gwasanaethau’n gallu cadarnhau beth oedd achos y tân, mae arwyddion cynnar yn awgrymu nad oedd yn amheus.

“Mae’r Heddlu’n gweithio’n agos gyda’r Gwasanaeth Tân a’r awdurdod lleol i edrych ar ôl y bobl sydd wedi cael eu symud o’u cartrefi ac i warchod safle’r tân,” meddai’r Heddlu.

Wrth ddechrau ymchwilio i achos y tân, mae ystafell ddigwyddiad wedi’i sefydlu i ddelio gyda’r digwyddiad.

Fe ddylai unrhyw un sy’n pryderu am ffrindiau neu berthnasau neu sydd â gwybodaeth am y tân gysylltu gyda’r Heddlu ar 02920 338460.