Fe fu cwymp sylweddol yn niferoedd teithwyr BA y mis diwethaf yn sgil y cwmwl llwch folcanig, yn ôl ffigyrau sy’n cael eu cyhoeddi heddiw.
Mae’r 2.08miliwn o deithwyr a gafodd eu cludo gan BA ym mis Ebrill 2010 yn 24.5% yn is na’r hyn oedd yn yr un cyfnod y llynedd.
Er gwaethaf hyn, mae Ryanair wedi llwyddo i ddangos cynnydd – er gwaethaf yr aflonyddwch a gafodd ei greu gan gwmwl llwch folcanig Eyjafjallajoekull, Gwlad yr Ia.
Yn y cyfamser, mae holl feysydd awyr gwledydd Prydain yn agored fel arfer heddiw ar ôl i gannoedd o wasanaethau gael eu canslo yn yr Alban a Gogledd Iwerddon ddoe.
Yn ôl ffigyrau’r Gwasanaeth Cenedlaethol Traffig awyr fe wnaeth holl feysydd awyr Prydain ailagor am 7am fore heddiw. Eisoes, roedd meysydd yn Iwerddon wedi ailagor am 4am y bore.
Fe wnaeth Ryanair hedfan yn 83% llawn fis diwethaf o’i gymharu â 82% yn Ebrill 2009.