Ceisio annog mwy o enethod a merched i chwarae golff yw nod ymgyrch a noddir gan Chwaraeon Cymru.

Mae Datblygiad Golff Cymru (DGC) – prosiect sy’n cefnogi’r nod hwn – wedi lansio cynllun blynyddol yn cynnig gwersi gyda chefnogaeth ariannol i grwpiau o ferched sydd â diddordeb mewn rhoi cynnig ar golff am y tro cyntaf.

Fe fydd y dyddiau blasu sy’n cael eu cynnig yn cael eu cynnal mewn clybiau golff ar hyd a lled y wlad. Hefyd, fe fydd y cynllun yn cynnig gwersi grŵp sy’n para chwe awr gyda swyddog proffesiynol yn eu clwb. Os bydd pethau’n mynd yn dda, mae cyfle am chwe wythnos bellach o hyfforddiant gydag aelodaeth dros dro’n gynwysedig yn y ffi.

‘Ffordd iachach o fyw’

“Mae llwyddiant ein golffwyr benywaidd proffesiynol ar lwyfan y byd, fel Becky Brewerton a Breanne Loucks, yn gwneud golff merched yn llawer mwy amlwg a phosibl i ferched yn y wlad hon,” meddai Cadeirydd Chwaraeon Cymru, Yr Athro Laura McAllister.

“Rydym yn gobeithio gweld llawer mwy o ferched a genethod yn mentro ar y lawntiau er mwyn sicrhau ffordd o fyw iachach, fwy cytbwys.”

Fe fydd y cynllun yn cael ei gynnal tan ganol yr haf.

Am fwy o wybodaeth : www.golfdevelopmentwales.org.