Mae lluoedd arfog Rwsia wedi rhyddhau criw tancer olew a oedd wedi cael ei herwgipio gan forladron oddi ar arfordir Yemen.

Yn y cyrch, cafodd un môr leidr ei ladd a chafodd deg arall eu harestio.

Digwyddodd y cyrch ar y llong, Moscow University, 24 awr ar ôl i’r môr ladron ei chipio gyda’r 23 o weithwyr arni wedi cloi eu hunain mewn ystafell ddiogel.

Roedd y llong yn cario 86,000 tunnell o olew crai gwerth $50m pan gafodd ei chipio.

Roedd aelodau o luoedd arfog Rwsia wedi abseilio oddi ar hofrennydd i ail-gipio’r llong.

Mae awdurdodau’r wlad yn bwriadu anfon y môr ladron i Foscow i wynebu cyhuddiadau.

Mae môr ladron yn parhau i fod yn broblem fawr i longau oddi ar arfordir Dwyrain Affrica gyda dros 300 o bobl yn cael eu dal yn wystlon ar hyn o bryd.