Mae ffermwr sy’n adnabyddus un o gantorion mwyaf poblogaidd Cymru wedi cael ei anrhydeddu fel Cymrawd gan Gymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru.

Mae Trebor Edwards o Fetws Gwerfyl Goch, ger Corwen wedi cael ei ddisgrifio fel “llysgennad diymhongar ond brwd dros ffermio a chefn gwlad.”

Fe fu’n llywydd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 2008 ac mae wedi derbyn y wobr am ei gyfraniad nodedig i ffermio teuluol.

Mae Trebor Edwards yn fridiwr llwyddiannus ac wedi arddangos gwartheg ar draws Prydain gan gynnwys yn Sioe Frenhinol Cymru a’r Ffair Aeaf lle enillodd y bencampwriaeth uchaf yn 2000.

Ffermio

Fe ddechreuodd Trebor Edwards ffermio pan yn 16 blwydd oed ar ddarn o dir 156 erw a oedd yn eiddo i’w daid.

Bellach, mae ei ddau fab yn bartneriaid ym musnes fferm y teulu sy’n rhan o’r cynllun Tir Gofal ers pum mlynedd, lle mae giatiau, ffensys a gwrychoedd yn cael eu cynnal i’r safon ofynnol a thri phwll bywyd gwyllt wedi’u creu.

Yn lleol, mae Trebor Edwards wedi cyfrannu i’r gymdeithas fel cynghorydd cymunedol ers dros 40 mlynedd ac mae’n llywodraethwr ysgol. Mae hefyd yn adnabyddus am ei lais tenor ac mae wedi canu i gynulleidfaoedd o gwmpas y byd.