Mae’r unig derfysgwr i oroesi’r lladdfa ym Mumbai wedi cael ei ddedfrydu i farwolaeth mewn llys yn yr India heddiw.

Fe gafodd Mohammed Ajmal Kasab, 22 oed o Bacistan, ei ganfod yn euog am ei ran yn yr ymosodiad yn 2008 lle bu farw 166 o bobl.

Ond fe fydd rhaid i bob achos o ddedfrydu i farwolaeth gael ei adolygu gan Uchel Lys y wlad.

Fe allai Mohammed Ajmal Kasab hefyd apelio yn erbyn y penderfyniad a cheisio am drugaredd y wladwriaeth neu’r llywodraeth ganolog.

Mae India yn beio grŵp o wrthryfelwyr ym Mhacistan, Lashkar-e-Taiba am gynllwynio’r ymosodiad. Ond fe wrthododd y barnwr honiadau cyfreithiwr Mohammed Ajmal Kasab ei fod wedi gweithredu o dan bwysau a gorfodaeth y gwrthryfelwyr.

Dywedodd y barnwr bod Mohammed Ajmal Kasab wedi ymuno gyda’r grŵp ar sail ei benderfyniad ei hun ac wedi hyfforddi i frwydro.

Mae’r erlynydd yn yr achos, Ujjwal Nikam, wedi dweud ei fod yn disgwyl iddi gymryd blwyddyn cyn i Mohammed Ajmal Kasab gael ei grogi.